Deuteronomy 34

Moses yn marw

1Yna dyma Moses yn mynd o anialwch Moab i ben Mynydd Nebo, ac i gopa Pisga, sydd gyferbyn â Jericho. Dyma'r Arglwydd yn dangos y wlad gyfan iddo – o Gilead i Dan, 2tir Nafftali i gyd, Effraim a Manasse, tir Jwda i gyd yr holl ffordd draw i'r môr, 3y Negef a'r gwastatir o ddyffryn Jericho (tref y coed palmwydd) yr holl ffordd i Soar. 4Yna dyma'r Arglwydd yn dweud wrtho, “Dyma'r wlad wnes i ei haddo i Abraham, Isaac a Jacob pan ddywedais, ‘Dw i'n mynd i'w rhoi hi i'ch disgynyddion chi.’ Dw i wedi gadael i ti ei gweld, ond dwyt ti ddim yn mynd i gael croesi drosodd yno.”

5Felly dyma Moses, gwas yr Arglwydd, yn marw yno yn Moab, fel roedd yr Arglwydd wedi dweud. 6Cafodd ei gladdu yng ngwlad Moab wrth ymyl Beth-peor, ond does neb yn gwybod yn union yn ble hyd heddiw. 7Roedd Moses yn gant dau ddeg oed pan fuodd farw, ond roedd yn dal i weld yn glir, ac mor gryf ac erioed. 8Buodd pobl Israel yn galaru ar ôl Moses am fis cyfan, ar wastatir Moab. Yna daeth y cyfnod o alar i ben.

9Cyn i Moses farw roedd e wedi gosod ei ddwylo ar Josua fab Nwn, ac roedd yr Arglwydd wedi gwneud Josua yn berson doeth iawn. Roedd pobl Israel yn gwrando arno ac yn gwneud yn union fel roedd yr Arglwydd wedi dweud wrth Moses.

Teyrnged i Moses

10Fuodd yna erioed broffwyd arall tebyg i Moses yn Israel – roedd Duw yn delio gydag e wyneb yn wyneb. 11Gwnaeth bopeth roedd yr Arglwydd wedi ei anfon i'r Aifft i'w wneud. Gwnaeth wyrthiau rhyfeddol yn erbyn y Pharo a'i swyddogion, a phawb arall drwy'r wlad. 12Roedd Moses wedi dangos nerth mawr a gwneud pethau rhyfeddol o flaen pobl Israel i gyd.

Copyright information for CYM